SL(6)462 – Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig) a wnaed o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Deddf 2016).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol yn cael ei drin fel gwasanaeth cartref gofal at ddibenion Deddf 2016 (ond gweler rheoliadau 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn am gwmpas cyflawn yr eithriad hwn). Bydd gwasanaeth gofal canolraddol yr awdurdod lleol yn parhau i gael ei reoleiddio fel gwasanaeth cymorth cartref.

Ystyr “gofal canolraddol” (“intermediate care”) yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn am gyfnod cyfyngedig at ddiben hybu gallu’r oedolyn i fyw’n annibynnol yn ei gartref ei hun drwy—

(a)   osgoi ei dderbyn i ysbyty yn ddiangen,

 

(b)   lleihau hyd unrhyw dderbyniad i’r ysbyty drwy alluogi ei ryddhau yn amserol,

 

(c)   galluogi ei adferiad ar ôl ei ryddhau o’r ysbyty, neu

 

(d)   atal neu ohirio’i dderbyn i wasanaeth cartref gofal.

At hynny, mae’r Rheoliadau yn egluro, pan fydd darparwr gwasanaeth llety yn ailgyflunio mangre, gan arwain at gapasiti cynyddol i letya pump neu fwy o bobl, bod yn rhaid i’r ystafell wely/ystafelloedd gwely ychwanegol a mannau cymunedol y gwasanaeth fodloni gofynion penodedig. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gael ystafelloedd ymolchi ensuite, isafswm maint ystafelloedd gwely, lleiafswm ardal gymunedol, gofod awyr agored hygyrch ac, mewn rhai amgylchiadau, lifft teithwyr.

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig ar hyn o bryd yn cynnwys is-baragraffau (a) i (j). Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu is-baragraff ychwanegol ar ôl is-baragraff (j). Fodd bynnag, nid yw’r is-baragraff ychwanegol wedi’i labelu fel is-baragraff (k), yn hytrach mae wedi’i labelu fel is-baragraff (l).

Nid yw’n glir pam na ddilynwyd trefn yr wyddor wrth ychwanegu’r is-baragraff newydd ar ôl is-baragraff (j).

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Ar ddechrau'r Rheoliadau, mae cyfeiriad at y dyddiadau y caiff y Rheoliadau eu gwneud, eu gosod a'u dod i rym. Fodd bynnag, ar gyfer offerynnau cadarnhaol drafft fel y Rheoliadau hyn, y confensiwn yw cyfeirio at y dyddiadau y gwneir y Rheoliadau s phan fyddant yn dod i rym, yn unig.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae Deddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn gwneud y Rheoliadau hyn a chyhoeddi datganiad am yr ymgynghoriad. At hynny, mae Deddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod copi o’r datganiad gerbron Senedd Cymru.

Mae rhaglith y Rheoliadau hyn yn datgan bod Gweinidogion Cymru wedi gosod copi o’r datganiad hwnnw gerbron Senedd Cymru. Fodd bynnag, nid ydym yn ymwybodol bod unrhyw ddatganiad o’r fath wedi’i osod gerbron Senedd Cymru.

Byddem yn croesawu eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch statws presennol y datganiad ymgynghori.

4.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Rheoliadau hyn yn diffino Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 fel “y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig”.

Fodd bynnag, mae’r Memorandwm Esboniadol yn diffinio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 fel “y Rheoliadau Darparwryr Gwasanaethau”.

Byddai'n ddefnyddiol pe bai'r diffiniadau a ddefnyddir yn y Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol yn gyson.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru i bwyntiau adrodd 1 i 3.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Mawrth 2024